Baw Anifeiliaid Mewn Ardaloedd Mynediad Cyhoeddus |
- Mae Lawnt y Castell ar agor ar hyn o bryd fel “Sgwâr Cyhoeddus” a chaniateir cŵn os ydyn nhw’n cael eu cadw ar dennyn. Gofynnir i’r perchogion lanhau ar ôl eu cŵn.
|
Systemau Cyfathrebu |
- Mae gan holl staff y lleoliad gymhorthion cyfathrebu a byddant yn fodlon cynorthwyo ag unrhyw ymholiadau.
|
Hanes Troseddol / Achosion Sifil |
- Mae disgwyl i’r grwpiau fod yng nghwmni athrawon trwy’r amser. Felly, ni ddylai staff y castell fod mewn sefyllfa lle maent yn gweithio’n unigol gyda phlant. Cymerir pob dull rhesymol i sicrhau bod staff y lleoliad a allai fod ar eu pennau eu hunain gyda disgyblion neu mewn cysylltiad sylweddol â phlant wedi cael profion y GDG.
|
Dringo / Peryglon Baglu |
- Gwaherddir dringo coed ac ar waliau yn y lleoliad.
- Darbwyllwch y plant rhag dringo’r canonau a’r gynnau maes rhag ofn iddynt syrthio.
- Mae llwybrau cobls mewn sawl ardal ar y safle, yn ogystal â nifer o beryglon baglu, y dylech fod yn wyliadwrus yn eu cylch.
- Mae ‘graean clymedig’ o flaen y Ganolfan Ddehongli a’r rhan fwyaf o’r dramwyfa. Er bod plant yn llai tebygol o sgidio ar hyd yr arwyneb hwn na graean rhydd, os syrthiant arno, cânt friw cas.
- Felly, rydym yn gofyn i chi sicrhau nad yw plant yn rhedeg ar hyd yr arwyneb hwn. Mae croeso iddyn nhw ladd egni ar y glaswellt ond byddem yn gofyn nad ydynt yn chwarae gemau pêl o flaen y tŷ. Gellir defnyddio’r ardal laswellt fwy ar gyfer hynny.
|
Gadael Mewn Argyfwng |
- Mae gweithdrefn gadael mewn argyfwng ar waith. Mae holl staff y lleoliad yn gyfarwydd â hon.
- Bydd aelod o staff gyda grŵp bob amser, a bydd yn arwain proses adael yr adeilad os oes angen. Y Ganolfan Addysg yw’r unig eithriad oherwydd ei bod yn bosibl y gadewir athrawon gyda’u grwpiau yn y ganolfan heb gymorth aelod o staff, e.e. wrth fwyta cinio yno. Fodd bynnag, bydd aelodau o staff gerllaw a fydd yn helpu mewn achos annhebygol o argyfwng.
- Mae Hysbysiadau gadael yr adeilad ar ddangos yn y Ganolfan Addysg. Rydym yn eich cynghori i ymgyfarwyddo â’r rhain ac annog eich cydweithwyr i wneud yr un peth ar ddechrau’r sesiwn.
- Os oes angen gadael yr adeilad, ewch i’r glaswellt y tu allan i’r Ganolfan Addysg oni chewch gyfarwyddyd yn dweud yn wahanol gan aelod o staff y Castell. Mae’n bwysig cadw’r holl ardaloedd yn y dramwyfa yn glir rhag ofn bod angen i injan dân ddod.
- Os clywch y larwm, rhaid i’r holl ymwelwyr fynd i’r Man Ymgynnull penodol. Gadewch yr holl gotiau a bagiau yn yr ystafelloedd ac annog y plant i aros yn dawel a pheidio â rhedeg na gwthio’r rhai o’u blaenau.
- Os seinia larwm pan ydych yn defnyddio’r Ganolfan Addysg, gofynnwn i chi geisio clirio Ystafell Ceidwad y Tŷ (Ystafell 1) yn gyntaf er mwyn gwneud lle i bobl sydd yn Ystafell y Stiward (Ystafell 2) gael mynd allan. Daw aelod staff i sicrhau nad oes unrhyw un ar ôl yn yr ystafell nac ardal y toiledau.
- Os ydych yn defnyddio lle cinio dan do, fel yr Is-grofft neu’r Bar, neu doiledau’r Ganolfan Addysg, dilynwch yr arwyddion allanfa dân gwyrdd i ddod o hyd i’ch ffordd allan ac ymgynnull ar y glaswellt o flaen y prif adeilad. Bydd angen i grwpiau yn nhoiledau’r Is-grofft a’r Ganolfan Addysg ganiatáu i ddosbarthiadau eraill o’r Ganolfan Addysg ymadael yn gyntaf. Bydd aelod o staff yn dod i wirio’r ardaloedd i sicrhau bod pawb wedi gadael.
- Pan fyddwch yn y mannau ymgynnull, cyfrwch aelodau eich grŵp a rhoi gwybod i aelod o staff yn syth os oes rhywun ar goll.
|
Cyfleusterau i Ymwelwyr ag Anghenion Ychwanegol. |
- Mae’r lleoliad yn ceisio ateb gofynion ymwelwyr ag anghenion ychwanegol. Rhaid i ysgolion ac arweinwyr partïon sicrhau bod trefniadau addas ar waith er mwyn rhoi goruchwyliaeth a chymorth addas i ddisgyblion ag anghenion ychwanegol.
- Nam corfforol – Mae mynediad i gadeiriau olwyn yn bosibl i’r Ganolfan Addysg a’r Is-grofft, ond mae llawer o risiau i fynd i’r prif adeilad a’r Gorthwr, gyda llawer o lefelau gwahanol a drysau cul o fewn yr adeilad. Felly, yn anffodus, nid yw’r ardaloedd hyn yn hygyrch i’r rhai sydd ag anawsterau symudedd.
- Mae lifft yn y Ganolfan Ddehongli, sy’n rhoi mynediad i’r Bylchfuriau a’r Llochesi Cyrchoedd Awyr ac mae modd mynd i’r rhain ar hyd llwybr llethr hefyd.
- Nam ar y Golwg – Lle bynnag y bo modd o fewn terfynau’r hyn a ganiateir mewn adeilad hanesyddol, mae ymylon y grisiau yn y lleoliad wedi’u gwneud yn fwy amlwg gyda phaent gwyn ar bob gris y gellir ei baentio. Gallai fod rhai grisiau heb eu paentio o hyd oherwydd natur yr adeilad. Mae lefel y goleuo yn yr ardaloedd y tu mewn yn dda’n gyffredinol.
- Mae casgliadau trin â llaw yn nwy ystafell y Ganolfan Addysg a gellir trefnu taith wedi ei haddasu’n arbennig y tu mewn i’r Castell ar gais. Mae fersiwn o’r Canllaw Sain sydd wedi’i ysgrifennu’n arbennig ar gyfer y rhai â nam ar eu golwg.
- Nam ar y clyw – Rydym yn argymell eich bod yn rhoi gwybod i staff Caerdydd wrth gyrraedd y Castell os oes rhywun â nam ar y clyw yn eich grŵp er mwyn i staff allu ceisio helpu pan fo’n bosibl. Mae cylch clywed yn y Ganolfan Addysg. Rhowch wybod i’r Swyddog Addysg os ydych chi am ddefnyddio’r cylch. Mae fersiwn ac arwyddion o’r Canllaw Sain ar gyfer y rhai â nam ar eu clyw a fersiynau print bras o sgript y canllaw sain ar gael hefyd.
|
Cymorth Cyntaf |
- Mae nifer o gynorthwywyr cymorth cyntaf ar y safle gyda mynediad i fagiau cymorth cyntaf ag offer llawn. Os oes angen cymorth, ewch at yr aelod staff agosaf atoch a fydd yn cysylltu â’r swyddog cymorth cyntaf perthnasol yn syth.
- Os oes argyfwng tra byddwch yn y Ganolfan Addysg, ffoniwch 029 2087 8100 a gofynnwch i aelod staff gysylltu â’r swyddog cymorth cyntaf ar ddyletswydd.
|
Teithiau Tywys |
- I ymweld â’r Tŷ (rhan Oes Fictoria’r Castell), caiff tywysydd (a elwir yn Groesawydd Ymwelwyr) ei neilltuo i’ch grŵp sydd â phrofiad a gwybodaeth sylweddol ac a fydd gyda’ch grŵp trwy gydol y daith dywys trwy’r tu mewn i’r adeilad.
- Gall ymwelwyr sy’n defnyddio’r canllaw sain wneud hynny yn eu hamser eu hunain ac mewn unrhyw drefn y dymunent (gan ddefnyddio’r paneli safle sydd ar hyd y safle).
- Bydd y Canllaw Sain yn eich tywys i’r Gorthwr (grisiau serth a throellog), ar hyd Llwybr y Bylchfuriau a thrwy’r Llochesi Cyrchoedd Awyr. Mae yna hefyd mannau aros Canllaw Sain o fewn y Tŷ ei hun. Sicrhewch fod y plant i gyd yn troedio’n ofalus wrth grwydro. Mae sgrîn ar declyn llaw y canllaw ac rydym yn argymell eich bod yn aros yn llonydd wrth ei ddefnyddio rhag ofn i chi faglu neu gerdded yn erbyn rhywbeth.
|
Cyfyngiad Uchder |
- Mae cyfyngiad uchder o 3373mm a hyd o 2642mm trwy brif giât y Castell er na chaniateir i gerbydau ddod i’r safle oni bai y ceir caniatâd ymlaen llaw.
|
Yswiriant (Atebolrwydd Cyhoeddus) |
- Mae gennym yswiriant atebolrwydd cyhoeddus neu drydydd parti hyd at £50 miliwn.
- Rhoddir copi o’n hyswiriant i ymwelwyr ar gais.
|
Mynd ar Goll |
- Oherwydd natur y lleoliad, cofiwch fod risg yr aiff plant ar goll os byddant yn crwydro o grwpiau wedi’u trefnu.
|
Gorsafoedd Pobl ar Goll |
- Dylai unrhyw un a aiff ar goll fynd i’r ardal ger y brif giât a chael ei gasglu oddi yno (bydd aelod o staff yn sicrhau diogelwch plentyn tra bydd yn aros yno).
- Os yw athro neu arweinydd grŵp yn sylweddoli bod plentyn wedi’i wahanu oddi wrth ei grŵp, rhowch wybod i’r staff wrth y giât neu’r Swyddfa Docynnau a fydd yn rhoi gwybod i ddefnyddwyr radio i helpu i ddod o hyd i’r plentyn.
|
Uchafswm Maint y Grwpiau |
- Gall pob taith dywys ar gyfer grwpiau ysgolion domestig yn ogystal â phob ystafell yn y Ganolfan Addysg ddarparu ar gyfer hyd at 35 o bobl, gan gynnwys athrawon ac oedolion cynorthwyol.
- Yn ystod pandemig Covid-19, roedd uchafswm niferoedd ar deithiau tywys wedi gostwng yn sylweddol ac roedd yn rhaid i athrawon rannu dosbarthiadau ar gyfer teithiau tywys.
- Pe bai angen lleihau maint y grwpiau, darperir y gwybodaeth wrth i chi drefnu eich ymweliad neu mewn e-bost.
- Rydym yn gweithredu cymarebau oedolion-plant ar gyfer ymweliadau ysgol, sydd fel a ganlyn:
– Plant Ysgol Feithrin – 1 oedolyn i bob 3 phlentyn
– Plant Oedran Derbyn – 1 oedolyn i bob 5 plentyn
– Blynyddoedd 1 a 2 – 1 oedolyn i bob 6 phlentyn
– Blynyddoedd 3 i 6 (Cynradd) – 1 oedolyn i bob 10 plentyn
– Blynyddoedd 7 a hŷn – 1 oedolyn i bob 15 plentyn
- Bydd y cymarebau yn wahanol i’r rhai sy’n dod gyda phlant ag anghenion arbennig a chytunir ar y rhain wrth drefnu.
- Rydym hefyd yn hyblyg os oes gan eich awdurdod lleol neu’ch ysgol gymhareb benodol wahanol o oedolion i blant ar gyfer ymweliadau ysgol.
|
Anghenion Meddygol |
- Dylai’r ysgol neu arweinydd y grŵp gysylltu â’r lleoliad os yw’n hysbys bod ar unrhyw ddisgybl gyflwr/angen meddygol penodol neu ddifrifol. Bydd angen trafod er mwyn ystyried trefniadau mewn argyfwng.
- Byddwn, pan fo’n ddiogel gwneud hynny, yn ceisio cynnwys disgyblion â chyflyrau penodol neu ddifrifol yn llawn yn y gweithgareddau a gynigir.
|
Planhigion / Ffyngau Niweidiol / Gwenwynig |
- Ar adegau penodol yn y flwyddyn, mae’n bosibl y bydd aeron gwenwynig ar goed, gwrychoedd ac ar y llawr. Dylai ysgolion roi gwybod i’r holl blant na ddylid hel yr aeron na’u bwyta.
- Mae rhai mathau o ffyngau hefyd yn tyfu ar gyfnodau penodol. Dylai ysgolion roi gwybod i’r holl blant na ddylid hel y ffyngau na’u bwyta.
|
Ymddygiad Gofynnol gan Ymwelwyr (dim mynediad i ardaloedd sydd ar gyfer staff y safle yn unig) |
- Ni ddylai ymwelwyr
– fynd i ardaloedd nad ydynt ar agor i’r cyhoedd, megis ardaloedd ar gyfer staff yn unig;
– ymddwyn yn afreolus
– dringo ar y waliau a’r coed
– mynd i’r bylchfuriau ac eithrio ar y llwybr a ddarperir (h.y. trwy ddringo’r banciau neu ddod i lawr y banciau o’r Bylchfuriau).
– cymryd lluniau y tu mewn i’r adeilad gan ddefnyddio golau fflach
– defnyddio ffonau symudol y tu mewn i’r adeilad
– bwyta neu yfed y tu mewn i’r Tŷ
– anwybyddu cyfarwyddiadau’r tywysydd/croesawydd ymwelwyr neu unrhyw aelod o staff
- Ni ddylai arweinwyr grwpiau adael plant heb oruchwyliaeth.
|
Map Cynllun |
- Mae map ar gael sy’n cynnwys lleoliad y Ganolfan Addysg, y toiledau a’r cyfleusterau arlwyo yn ogystal ag eitemau eraill o ddiddordeb. Cyflwynir hyn i arweinwyr grwpiau wrth gyrraedd y Castell.
|
Archwiliadau Safle o Gyfleusterau / Ardaloedd y Lleoliad |
- Mae staff y Castell yn cynnal archwiliadau rheolaidd o’r cyfleusterau ac mae proses adrodd fewnol ar waith ar gyfer unrhyw beryglon diogelwch. Cofnodir archwiliadau safle mewn llyfr log.
- Caiff yr holl offer ei brofi yn rheolaidd i sicrhau ei fod yn gweithio’n dda.
|
Adnabod Staff y Safle |
- Mae staff y Castell yn gwisgo gwisg las â logo’r Castell.
- Gellir adnabod y staff i gyd yn hawdd trwy edrych am y logo neu fathodyn adnabod personol.
|
Traffig Cerbydau |
- Mae’n bosibl y bydd angen mynediad ar rai cerbydau i’r tiroedd ond prin y bydd hyn. Cedwir at y cyfyngiad cyflymder o 5 m.y.a. yn llym ond dylai arweinwyr grwpiau fod yn ymwybodol y gallai fod cerbydau’n symud.
- Nid oes lle i barcio bysus ar y safle; fodd bynnag mae maes parcio i fysus gerllaw, yng Ngerddi Sophia – taith tua 15 munud ar droed o’r Castell. Mae hefyd yn bosibl gollwng grwpiau yno, a all wedyn gerdded trwy Barc Bute i Stryd y Castell, lle byddant yn cerdded ar y palmant wrth ochr lôn feicio ddwyffordd i fynedfa’r Castell.
- Nid yw’n bosibl bellach i fysus ollwng yn uniongyrchol y tu allan i’r Castell. Ar adeg ysgrifennu’r gwaith, mae’r mannau gollwng bysus agosaf yn y gilfan ar Heol y Gogledd (i gyfeiriad y Gogledd), ychydig y tu hwnt i’r Castell a’r tu allan i Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Mae map o’r rhain a’r mannau parcio coetsis ar gael ar gais ac mae gwybodaeth ar wefan Croeso Caerdydd.
|
Diogelwch Tywydd / Diogelwch yn yr Haul |
- Mae nifer o ardaloedd ar gael ledled y lleoliad sy’n cynnig diogelwch rhag y tywydd (tywydd garw neu ddyddiau poeth o haul). Mae’r rhain yn cynnwys ardaloedd dan un o’r coed yn y Castell, ardaloedd yn y Gorthwr Normanaidd, y Ganolfan Ddehongli, y Llochesi Cyrchoedd Awyr a’r Amgueddfa Firing Line.
- Mae seddi ychwanegol dan gysgod i ochr dde’r prif Dŷ, y gall grwpiau ysgol eu defnyddio.
- Rydym yn cynghori’n gryf bod plant yn dod ag eli haul a hetiau pan fo tywydd braf oherwydd bod llawer o ardaloedd agored heb gysgod yn y Castell.
|
Cyfleusterau Lles |
- Mae toiledau fel arfer ar gael yn gyfagos i’r Ganolfan Addysg, sydd ar gyfer grwpiau addysg yn unig. Mae grisiau eithaf serth i fynd i lawr at y rhain ym mhen draw’r coridor sy’n arwain at y Ganolfan Addysg.
- Mae toiled i bobl anabl yn y Ganolfan Addysg, wrth ymyl Ystafell Ceidwad y Tŷ.
- Mae toiledau i ddynion hefyd ger prif fynedfa’r Castell ac mae toiledau ychwanegol i fenywod wrth waelod Tŵr y Cloc.
- Teras y Gorthwr – Mae’r cyfleuster arlwyo yn y Ganolfan Ddehongli’n cynnig amrywiaeth o fyrbrydau a diodydd.
- Rydym yn ceisio cynnig man bwyta dan do pan fo’r tywydd yn wael ond ni allwn warantu hyn.
- Fel lleoliad a gynhelir gan Gyngor Caerdydd, mae gennym bolisi dim ysmygu llym trwy’r safle.
|