Beth wyt ti'n edrych am?
Mae Gardd y To ar ben Tŵr Bute ac mae’n dyddio o tua 1875. Mae’n ofod anarferol iawn ac fe’i bwriadwyd fel encil tawel i’r Arglwydd Bute.
Mae’r ardd yn Rhufeinig ei naws ac fe’i hysbrydolwyd gan filâu hynafol, gan fod y Buteiaid a’r Burgesiaid yn llawn syniadau o’u hymweliadau â Pompeii.
Dim ond trwy ymuno â thaith dywys y gellir cael mynediad i Ardd y To.
Mae teils ar y waliau sy’n darlunio straeon o fywyd y proffwyd Eleias. Oddi tanodd, mae testun Hebraeg yn adrodd y stori. Roedd yr Arglwydd Bute yn ysgolhaig Hebraeg, yn ogystal â llawer o ieithoedd eraill.
Cynlluniwyd y ffynnon efydd gan William Burges ac roedd dŵr yn arllwys allan o’r tyrau cornel yn ogystal ag allan o gegau’r pysgod, a ddaliwyd yng nghrafangau’r afancod efydd.
Mae’r llawr o fosaig mewn arddull Rufeinig, ond ag ymyl o wenithfaen pinc Peterhead o’r Alban.
Mae’r blychau blodau efydd wedi’u copïo o losgyddion siarcol Rhufeinig, o enghreifftiau a ddarganfuwyd yn Pompeii.