Neidio i'r prif gynnwys

SIOP RODDION Y CASTELL

Mae detholiad eclectig o anrhegion a chofroddion prydferth wedi eu hysbrydoli gan gasgliadau’r Castell, aur Cymru, grisial a thlysau arbennig ar werth yn ogystal ag ystod eang o gardiau post, printiau celf, llyfrau, a deunydd ysgrifennu. Gwerthir crefftau traddodiadol Cymreig hefyd, megis llwyau caru – gellir comisiynu cynlluniau unigol.

Yn yr adran blant, ar thema’r Castell, cewch bopeth y byddai darpar dywysog neu dywysoges ei angen; gemau, llyfrau, gwisgoedd modelau.

‘Hanfodion Castell Caerdydd’ yw’r arweiniad gorau i’r safle, yn adrodd dros 2,000 o flynyddoedd o hanes. Wedi ei ddarlunio’n brydferth, y llyfr hwn yw’r rhodd berffaith i gofio’r ymweliad. Mae llyfrau arbenigol ar Burges, yr arddull Gothig Fictorianaidd a chestyll yng Nghymru hefyd ar werth.

Yr un oriau agor â’r Castell.

10% I FFWRDD Â'CH ALLWEDD Y CASTELL!

Os ydych chi'n byw neu'n gweithio yng Nghaerdydd ar hyn o bryd, mae gennych hawl i'ch Allwedd y Castell eich hun gyda mynediad AM DDIM am o leiaf 3 blynedd. Mae deiliaid Allwedd hefyd yn derbyn gostyngiad o 10% yn siop rhoddion y Castell ac yng nghegin a bar Terras y Gorthwr.

Overlay

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar ein rhestr bostio Castell Caerdydd i dderbyn y newyddion diweddaraf a beth sydd ymlaen.