Beth wyt ti'n edrych am?
RHANDAI’R CASTELL
Mae rhannau hynaf adeiladau preswyl y Castell yn dyddio o’r 1500au. Wrth i amseroedd fynd yn llai cythryblus, dechreuodd blaenoriaethau symud o amddiffyniad i gysur ac aeth Ieirll Penfro ati i greu cartref moethus.
Roedd y tŷ wedi dadfeilio erbyn i deulu Bute etifeddu’r Castell ym 1766. Cyflogodd yr Arglwydd Bute y pensaer Henry Holland a’i dad yng nghyfraith, Capability Brown i ymgymryd â rhaglen uchelgeisiol o ddymchwel ac ailadeiladu.
Yn 1865, cychwynnodd 3ydd Ardalydd Bute gydweithrediad rhyfeddol gyda’r pensaer celf, William Burges. Trawsnewidiodd y ddau ddyn hyn, y ddau wedi eu swyno gan y gorffennol, Gastell Caerdydd i’w gweledigaeth o’r palas breuddwydion canoloesol eithaf.
Wedi’i gynnwys ym mhris eich tocyn mynediad i’r Castell, gallwch archwilio rhannau o’r strafagansa ffiwdal gothig hon. Gwelwch yr ystafelloedd tylwyth teg ysblennydd isod, yn llawn murluniau, goreuro a cherfiadau pren cywrain, gwydr lliw a marmor.
STYDI’R ARGLWYDD BUTE
Yn wreiddiol, roedd yr ystafell hon yn ystafell waith i lyfrgellydd yr Arglwydd Bute ond yn ddiweddarach daeth i fod yn stydi i’r Ardalydd ei hun. Er bod y Tŵr Herbert yn dyddio o’r 1580au, mae’r holl addurn a welwch heddiw o’r oes Fictoraidd. Cadwch lygad am y pedwar parot sy’n addurno’r simnai.
YR YSTAFELL ARABAIDD
Roedd y tu mewn anhygoel hwn yn un o’r olaf a ddyluniwyd gan William Burges ac mae’n dyddio o 1881, y flwyddyn y bu farw. Mae’r nenfwd anhygoel o arddull a elwir yn ‘muquarnas’. Mae wedi’i wneud o bren sydd wedi’i orchuddio â deilen aur a’i addurno.
Y NEUADD WLEDDA
Y neuadd wledda yw’r ystafell fwyaf yn y castell ac mae wedi’i leoli yn rhan hynaf yr adeilad. Er bod y waliau gwirioneddol yn dyddio o’r bymthegfed ganrif, mae’r holl addurniadau wyneb, nenfwd a lloriau yn Fictoraidd.
YR YSTAFELL FWYTA FACH
Defnyddiwyd yr ystafell hon fel ystafell fwyta i aelodau o’r deulu Bute pan nad oedd llawer o westeion, os o gwbl. Trawsnewidiwyd yr ystafell o du mewn plaen gan William Burges a’r 3ydd Ardalydd Bute tua 1875.
YR YSTAFELL GROESO
Dyma’r unig brif ystafell â’i haddurn yng Nghastell Caerdydd sydd wedi goroesi o’r ddeunawfed ganrif. Ar un adeg roedd yr ystafell wedi’i dodrefnu’n drwchus iawn gyda phaentiadau, dodrefn ac addurniadau, ond cafodd y rhain eu symud pan gyflwynwyd y castell i’r ddinas gan y teulu ym 1947.
Y LLYFRGELL
Mae’r llyfrgell yn rhan hyna’r tŷ ac roedd rhan ohoni ar un adeg yn ffurfio Neuadd Fawr y bymthegfed ganrif. Mae’r ystafell yn un o’r pwysicaf yn y castell gan ei bod yn dal i gynnwys y cypyrddau llyfrau a byrddau gwreiddiol Burges a ddyluniwyd a’u gwneud ar gyfer yr ystafell hwn.
TEITHIAU Y CASTELL
Uwchraddiwch eich Tocyn y Castell ac am ffi fach ychwanegol gallwch ymuno â thaith arbenigol ar un o'n teithiau castell hynod ddiddorol ac addysgiadol. Dilynwch ôl troed teulu Bute a threuliwch ychydig yn ddyfnach i hanes yr adeilad anhygoel hwn.