Beth wyt ti'n edrych am?
Llwybr y Bylchfyriau
Heddiw, mae’n bosibl mwynhau mynd am dro hamddenol ar hyd 3 ochr amddiffynfeydd allanol y Castell, o’r wal ddeheuol, o amgylch y dwyrain a gorffen wrth borth y gogledd. Wrth i chi wneud hynny, edrychwch a allwch chi ddychmygu’ch hun fel llengfilwr Rhufeinig ar batrôl, gan gadw llygad barcud ar y dirwedd o amgylch. Pam? Oherwydd bod pob un o’r tair rhan o’r wal mewn gwirionedd yn adluniadau Fictoraidd o gaer Rufeinig a arferai feddiannu’r safle.
Dim ond ym 1888 y darganfuwyd gorffennol Rhufeinig Caerdydd, yn eithaf ar ddamwain, pan ddechreuodd gweithwyr yr Arglwydd Bute glirio gwrthgloddiau Normanaidd er mwyn adeiladu twr newydd arfaethedig. Yn dilyn archwiliad helaeth, datgelwyd maint y waliau Rhufeinig oedd ar ôl o’r diwedd a phenderfynodd y 3ydd Ardalydd gefnu ar ei gynlluniau ac ailadeiladu’r gaer yn lle. Dechreuodd y gwaith ym 1897, gan adeiladu ar ben y sylfeini Rhufeinig gwreiddiol, ac fe’i cwblhawyd gan y 4ydd Ardalydd ym 1923.