Beth wyt ti'n edrych am?
STORI O WRTHRYFEL, BRAD A LLOFRUDDIAETH
Gwrthryfel Llywelyn Bren – 1316
Darganfyddwch Hanesion y Tŵr Du yma yng Nghastell Caerdydd, profiad cyffrous newydd sy’n ail-adrodd stori Llywelyn Bren, arwr anghofiedig o hanes Cymru canoloesol.
Yn y 14eg ganrif, arweiniodd Llewelyn a’i ddilynwyr wrthryfel dewr yn erbyn Siryf gormes Morgannwg. Fe wnaethant ymladd yn galed ond methodd y gwrthryfel yn y diwedd a byddai Llewelyn yn talu gyda’i fywyd. Cafodd ei garcharu a’i lofruddio ar gam yn yr un Tŵr Du lle byddwch chi’n clywed y stori iasoer hon.
Dewch i gwrdd ag ysbrydion amser maith yn ôl wrth i’r atyniad trochiedig hwn dod â hanes yn fyw mewn ffordd na fyddwch yn ei anghofio yn fuan. Mae archebion ar gael nawr o swyddfa docynnau’r Castell, gofynnwch am ragor o fanylion.
AMSEROEDD
Amseroedd Straeon y Tŵr Du | |||
10:30* | 11:00 | 11:30 | 12:00 |
12:30 | 13:00 | 13:30 | 14:00 |
14:30 | 15:00 | 15:30 | 16:00* |
16:30* | 17:00* |
*Sylwch fod slotiau 10:30, 16:00, 16:30 a 17:00 ar gael ddydd Gwe – Sul yn unig.
PRISAU TOCYNNAU
Uwchraddio’ch tocyn, Allwedd y Castell neu’r Tocyn Blynyddol | Prisiau |
Oedolyn | £4.00 |
Plentyn (5 – 16 oed, rhaid fod yng nghwmni oedolyn) |
£3.00 |
Henoed / Myfyrwyr / Anabl (un gofalwr am ddim gyda phob ymwelydd anabl) |
£3.50 |
Tocyn Teulu Oedolion (2 oedolyn a 2 blentyn) |
£11.00 |
Tocyn Teulu Henoed (2 henoed a 2 blentyn) |
£10.00 |