Beth wyt ti'n edrych am?
DIWRNOD ALLAN UNIGRYW…
Castell Caerdydd yw un o’r atyniadau twristaidd mwyaf poblogaidd yng Nghymru gyda chyfle unigryw i archwilio bron i 2000 mlynedd o hanes anhygoel, o oes y Rhufeiniaid hyd heddiw, i gyd mewn un lle.
Dringwch y Gorthwr Normanaidd a weld ein replica trebuchet. Rhyfeddwch yn Rhandai’r Castell, a grëwyd ar gyfer un o ddynion cyfoethocaf y byd. Darganfyddwch weddillion y Rhufeiniaid a Chornel y Cerbyd. Archwiliwch amgueddfa filwrol Firing Line a phrofwch y Llochesi Rhyfel. Mwynhewch dro hamddenol ar hyd y Bylchfuriau, yna ymlaciwch yng nghaffi’r Castell a phori’r siop rhoddion.
TEITHIAU O'R CASTELL
Uwchraddiwch eich Tocyn y Castell am ffi ychwanegol fach a gallwch ymuno ar un o'n teithiau tywys hynod ddiddorol ac addysgiadol. Dilynwch ôl troed teulu Bute a threuliwch ychydig yn ddyfnach i hanes yr adeilad anhygoel hwn.
NEWYDD! - HANESION Y TŴR DU
Brwydr ganoloesol yr arwr lleol Llywelyn Bren yn erbyn Siryf gormesol Morgannwg yw testun ‘Hanesion y Tŵr Du,’ atyniad teuluol newydd yng Nghastell Caerdydd.
AMSEROEDD A PHRISIAU
Mae Castell Caerdydd ar agor i ymwelwyr 7 diwrnod yr wythnos trwy gydol y flwyddyn, gyda ychydig o eithriadau, ac mae eich Tocyn y Castell yn borth i tua 2000 mlynedd o hanes. Ar gyfer ymwelwyr rheolaidd, rydym hefyd yn cynnig Tocyn Blynyddol ac Allwedd y Castell...
Y SGWÂR CYHOEDDUS
MYNEDIAD AM DDIM yn ystod oriau agor.
Mae croeso i ymwelwyr a defnyddwyr canol y ddinas ddod i mewn ac ymlacio yn lleoliad hyfryd lawnt allanol y Castell, yn rhad ac am ddim. Tra’ch bod chi yma, gallwch hefyd prynu cofrodd yn Siop Roddion y Castell neu fachu brathiad a diod yng Ngwledda Ger y Gorthwr. Dylai ymwelwyr sy’n edrych am mwy o wybodaeth am y ddinas galw heibio’r Pwynt Gwybodaeth i Ymwelwyr y tu allan i’r brif giât.