Neidio i'r prif gynnwys

Teithiau Nadolig Fictoraidd Siôn Corn

Dyddiad(au)

10 Rhag 2024 - 17 Rhag 2024

Amseroedd

15:30 - 19:45

Lleoliad

Castell Caerdydd, Stryd y Castell, Caerdydd CF10 3RB

Map Google

MWY O WYBODAETH...

Mae Nadolig Fictoraidd bythol boblogaidd Siôn Corn yn dychwelyd ar gyfer y tymor Nadoligaidd 2024. Cyfle i chi a’ch anwyliaid fwynhau taith arbennig gyda’r nos o amgylch rhandai addurnedig Castell Caerdydd.

Daw’r daith fer hon i ben gyda chyfarfod arbennig yn y Parlwr cain, lle bydd plant yn cael cyfle i siarad â Siôn Corn, cael tynnu lluniau a gadael gyda dewis o anrheg.

I gael diweddglo perffaith i noson hudolus, cynheswch â gwydraid o win cynnes (neu ddiod ysgafn) a danteithion tymhorol yn amgylchedd syfrdanol Llyfrgell y Castell.

MAE EICH TOCYN YN CYNNWYS:
  • Taith breifat o amgylch Apartments y Castell lle bydd tywysydd mewn gwisgoedd yn arwain eich grŵp ac yn dweud popeth wrthych am Nadolig Fictoraidd.
  • Helfa drysor â thema Nadoligaidd o amgylch yr ystafelloedd.
  • Cyfarfod preifat gyda Siôn Corn yn y Parlwr, gan gynnwys dewis o anrheg.
  • Gwin cynnes neu ddiod ysgafn a bisgedi am ddim yn y Llyfrgell.
  • Gostyngiad o 10%* yn Siop Rhoddion y Castell.
PRISIAU TOCYN:
  • Taith Nadolig breifat £80 (i gynnwys hyd at 2 Oedolyn a 2 o Blant)
  • Plentyn Ychwanegol £18 (uchafswm o 6 ychwanegol)
  • Oedolyn Ychwanegol £12 (uchafswm o 4 ychwanegol)

Er mwyn darparu’r gwerth gorau, rydym yn caniatáu i grwpiau archebu tocynnau ychwanegol i deulu a ffrindiau agos. Mae hyn yn golygu y gall pob sesiwn gynnwys uchafswm llym o 6 Oedolyn ac 8 o Blant.

Bydd pob plentyn yn cael cyfarfod gyda Siôn Corn ac yn gallu dewis ei anrheg o blith detholiad o deganau heb eu lapio.

Sylwer: Yn anffodus, ni allwn warantu y bydd Siôn Corn dwyieithog ar gael eleni.

DYDDIADAU
Maw 10 Rhag Mer 11 Rhag
Maw 17 Rhag Mer 18 Rhag
AMSEROEDD
15:45 16:00 16:15
16:30 16:45 17:00 17:15
17:30 17:45 18:00 18:15
18:30 18:45 19:00 19:15
Overlay

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar ein rhestr bostio Castell Caerdydd i dderbyn y newyddion diweddaraf a beth sydd ymlaen.