What are you looking for?
DARGANFOD 2000 MLYNEDD O HANES
Mae Castell Caerdydd yn un o brif atyniadau treftadaeth Cymru ac yn safle o arwyddocâd rhyngwladol. Wedi’i leoli yng nghanol y brifddinas, o fewn parcdiroedd hardd, mae gan y Castell bron i 2,000 o flynyddoedd o hanes yn aros i gael ei archwilio.
Dechreuodd y cyfan yn y ganrif 1af OC gan y Rhufeiniaid, a adeiladodd y cyntaf mewn cyfres o gaerau. Yn yr 11eg ganrif, adeiladodd y Normaniaid y Gorthwr sy’n dal i ddominyddu Lawnt y Castell hyd heddiw. Dechreuodd Arglwyddi Morgannwg canoloesol weithio ar y Tŷ yn ystod y 15fed ganrif.
Gadawodd y teulu Bute eu marc ar y ddinas gyfan yn y 19eg ganrif, fe wnaethant hefyd drawsnewid y Tŷ i’r gartref Gothig Fictoraidd didraidd y welwn heddiw. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, defnyddiwyd y waliau o amgylch y Castell fel llochesi cyrch awyr; man diogel i filoedd o ddinasyddion Caerdydd. Mae ailadeiladu’r llochesi wedi cael ei agor i ymwelwyr ei archwilio.